Ymateb y Llywodraeth: Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru

 

Pwynt craffu 1:                      Gall Llywodraeth Cymru gadarnhau bod y Cod a osodwyd ar 30 Ionawr 2024 yn disodli’r fersiwn a osodwyd ar 4 Rhagfyr 2023. Y fersiwn ddiweddaraf hon o’r Cod yw hefyd yr un sy’n fyw ar y dudalen we. Mae rhanddeiliaid yn cael eu hysbysu bod y Cod wedi cael ei ddiweddaru drwy’r gwaith ymgysylltu sy’n cael ei gynnal wrth baratoi ar gyfer y gofynion newydd yn dod i rym ym mis Ebrill.